EIN HAMCANION LLESIANT
Er mwyn gwireddu ein gweledigaeth ar gyfer dyfodol y Fro, byddwn yn gweithio dros y pum mlynedd nesaf i gyflawni ein tri Amcan Llesiant:
- Bro sy'n fwy cydnerth gwyrdd - drwy ddeall a gwneud y newidiadau sydd eu hangen fel unigolion, cymunedau a sefydliadau mewn ymateb i'r argyfyngau hinsawdd a natur.
- Bro sy'n fwy iach ac egnïol - drwy annog a galluogi pobl o bob oed i fod yn fwy egnïol ac i hyrwyddo manteision mabwysiadu ffordd iachach o fyw.
- Bro sy'n fwy cyfartal a chysylltiedig - drwy fynd i'r afael â'r anghydraddoldeb a geir ar draws y Fro, ymgysylltu â'n cymunedau a chynnig cyfleoedd a chymorth gwell i wneud gwahaniaeth parhaol.
Mae'r Amcanion hyn wedi'u gosod yng nghyd-destun canfyddiadau'r Asesiad, yr heriau allweddol sydd o'n blaenau ar hyn o bryd a'r gwaith sydd ar y gweill gan bartneriaid ar raddfa leol a rhanbarthol. Mae’r diagram uchod yn dangos rhyng-gysylltedd ein tri Amcan Llesiant a sut y bydd gwahanol raglenni gwaith a gweithgarwch partneriaeth (presennol, newydd a diwygiedig) yn cyfrannu at gyflawni ein Hamcanion. Mae hyn yn dangos ehangder y gweithgarwch sy’n cael ei gyflawni mewn partneriaeth ar draws y Fro.
Rydym yn hyderus y gallwn, drwy’r Amcanion hyn, wneud gwahaniaeth cadarnhaol i lesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol a gwneud y cyfraniad mwyaf posibl tuag at y Nodau Llesiant Cenedlaethol. Mae adrannau ‘Ein Hamcanion Llesiant’ a ‘Cyflawni Ein Hamcanion Llesiant’ yn y Cynllun yn esbonio ymhellach sut rydym wedi datblygu'r Amcanion, a'r amrywiaeth o weithgareddau a phrosiectau y manylir arnynt uchod sy'n ffurfio'r camau a fydd yn cyfrannu at gyflawni'r Amcanion hyn. Mae'r ddelwedd isod yn esbonio'n fanylach sut mae ein hamcanion yn cyfrannu at y Nodau Llesiant cenedlaethol. Mae’r matrics ar ddiwedd yr adran hon hefyd yn esbonio sut y bydd y camau a amlinellir isod yn cyflawni ein blaenoriaethau a'n Hamcanion, ac yn cyfrannu at y Nodau Llesiant cenedlaethol.
FFRYDIAU GWAITH Â BLAENORIAETH
Mae'r Cynllun hwn yn manylu ar amrywiaeth eang o waith a fydd yn cyfrannu at gyflawni ein Hamcanion ac mae'r BGC wedi nodi tair ffrwd waith â blaenoriaeth lle mae angen ffocws penodol ac ychwanegol ar y cyd. Mae’r rhain yn dod ag amrywiaeth o waith sy'n bodoli eisoes ynghyd ond yn cydnabod bod angen adeiladu momentwm a herio'r ffyrdd presennol o weithio er mwyn bodloni'r anghenion a wynebu'r heriau a amlygwyd yn yr Asesiad Llesiant. Mae’r ffrydiau gwaith â blaenoriaeth hyn yn berthnasol er mwyn cyflawni ein holl Amcanion, a byddant hefyd ynn cyfrannu at yr holl Nodau Llesiant cenedlaethol. Ceir rhagor o wybodaeth am fanylion y ffrydiau gwaith â blaenoriaeth hyn yn adran Cyflawni Ein Hamcanion Lles y cynllun hwn. Ein tair ffrwd waith â blaenoriaeth yw’r canlynol:
Ymateb i argyfyngau hinsawdd a natur -Drwy’r Cynllun Llesiant hwn mae’r BGC yn ailadrodd ei ymrwymiad i arwain drwy osod esiampl, gan fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur, a chydnabod ein cyfrifoldeb byd-eang i ymateb i'r naill argyfwng a'r llall. Mae’r Asesiad Llesiant yn nodi rhai o’r materion allweddol i’r Fro o ran yr argyfyngau hinsawdd a natur ac mae partneriaid yn cydnabod mai’r ffordd orau o gyflawni’r newidiadau sydd eu hangen ar draws ein sefydliadau a’n cymunedau yw drwy gydweithio. Bydd hyn yn cynnwys ystyried trafnidiaeth, ynni, bwyd, bioamrywiaeth a sut rydym yn defnyddio ein hadeiladau a’n tir.
Drwy weithio gyda’r bobl sy’n byw yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig -mae'r Asesiad Llesiant wedi tynnu sylw at y gwahaniaethau ar draws y Fro a sut mae pandemig Covid-19 wedi gwaethygu'r anghydraddoldebau hyn. Yn ogystal â hyn, bydd yr argyfwng costau byw presennol, yn enwedig y cynnydd mewn costau ynni a bwyd, yn effeithio hyd yn oed yn fwy ar y rhai sydd eisoes mewn tlodi. Bydd ffocws penodol ar yr ardaloedd hynny o Fro Morgannwg a nodir fel ardaloedd mwy difreintiedig gan Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru a mynd i’r afael ag annhegwch yn y cymunedau hyn.
Datblygu'n Fro Oed Gyfeillgar -Diffinnir Cymunedau Oed Gyfeillgar gan Sefydliad Iechyd y Byd fel cymuned lle mae 'polisïau, gwasanaethau, lleoliadau a strwythurau yn cefnogi pobl a'u galluogi i heneiddio'n dda'. Rhagwelir y ceir cynnydd o 5,266 yn y boblogaeth 65-84 oed rhwng 2019 a 2039 a chynnydd o 2,904 yn y boblogaeth 85 oed neu'n hŷn. Bydd gwaith i wneud y Fro yn fwy oed gyfeillgar ac yn ardal well i bobl heneiddio ynddo ynddi yn gwneud y Fro yn lle mwy cyfeillgar i bawb, ac yn helpu i sicrhau i barchu a gwerthfawrogi pobl hŷn yn ein cymunedau, gan gydnabod eu cyfraniad, eu hanghenion a'u dyheadau. Byddwn hefyd yn cydnabod rôl gweithgareddau diwylliannol er mwyn dod â gwahanol genedlaethau ynghyd. Bydd y gwaith hwn yn cyd-fynd â gwaith y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ar heneiddio’n dda a bydd ffocws ataliol cryf hefyd i’r gwaith wrth i bartneriaid gydweithio i sicrhau bod gwasanaethau’n diwallu anghenion amrywiol y gymuned, gan ddarparu cymorth a chyfleoedd i breswylwyr o bob oed.