Wrth ddatblygu ein tri Amcan Llesiant newydd rydym wedi ystyried yr ystod o wybodaeth yn yr Asesiad Llesiant a'r hyn sydd eisoes ar waith yn lleol ac yn rhanbarthol. Rydym yn hyderus y gallwn, wrth gyflawni’r Amcanion hyn, ddylanwadu ar ystod eang o weithgareddau a gwasanaethau ar draws y Fro, gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i lesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol preswylwyr ac ymwelwyr, a thros oes y Cynllun y gallwn wneud y mwyaf o’n cyfraniad at y Nodau Llesiant Cenedlaethol yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy.
Dylid ystyried ein Hamcanion Llesiant a’n gweithgareddau arfaethedig yng nghyd-destun yr ystod o gynlluniau, strategaethau a gweithgareddau cydweithredol eraill sy’n digwydd yn y Fro a’r rhanbarth ehangach. Fel y manylir yn adran 7 y cynllun, Beth a Ddywedoch Wrthym, rydym wedi bod yn siarad â gwahanol grwpiau, sefydliadau a phobl o bob oed yn rhan o'r gwaith i ddatblygu'r Cynllun ac mae’r sgyrsiau hyn wedi helpu i lunio ein Hamcanion a’r camau y byddwn yn eu cymryd i’w cyflawni.
Dangosodd yr ymgynghoriad a gynhaliwyd gennym ar ein Hasesiad Llesiant fod pobl yn teimlo ein bod wedi trafod y materion cywir a bod yr Asesiad yn adlewyrchu eu profiadau o'r Fro. Yn naturiol, mae ein Hamcanion yn eang eu cwmpas, ond credwn eu bod yn creu fframwaith cadarn ar gyfer ein gweithgareddau. Maent yn adlewyrchu’r angen i ymateb i’r argyfyngau hinsawdd a natur ac yn rhoi’r cyfle i integreiddio gwaith y BGC â'r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, y Brifddinas-Ranbarth a gweithgarwch partneriaeth arall. Maent yn adlewyrchu’r hyn y mae pobl yn ei ddweud wrthym sy’n bwysig iddynt, ond hefyd ein canfyddiadau o ran annhegwch yn y Fro a waethygwyd gan bandemig COVID-19, fel yr amlygwyd yn Adroddiad Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Caerdydd a'r Fro yn 2020 ac y gallai'r argyfwng costau byw eu gwaethygu eto. Maent hefyd yn darparu fframwaith hyblyg a fydd yn cefnogi gwaith y BGC ac yn sicrhau hirhoedledd y Cynllun dros y pum mlynedd nesaf.
Mae pob un o’r tri Amcan yn adlewyrchu'r her sy'n gysylltiedig â'r angen i weithredu nawr, yn ogystal ag ymagwedd fwy hirdymor lle mae angen i sefydliadau ac unigolion newid ymddygiad, ynghyd â dealltwriaeth well o dueddiadau'r dyfodol ac effaith ein camau gweithredu a'n penderfyniadau.
Bro sy'n fwy cydnerth a gwyrdd
Bro sy'n fwy iach ac egnïol
Bro fwy cyfartal a chysylltiedig
Mae’r Amcanion hyn yn darparu fframwaith i'r BGC ac i eraill, gan gynnwys partneriaethau cyflin, er mwyn mynd i'r afael â'r problemau o flaen ein preswylwyr, a sicrhau ein bod yn parhau i gynyddu ein cyfraniad at nodau llesiant cenedlaethol hyd yr eithaf.
Mae'r diagram uchod yn dangos rhyng-gysylltedd ein tri Amcan Llesiant, a'r modd y bydd gwahanol raglenni gwaith a gweithgarwch partneriaeth yn cyfrannu at gyflawni ein Hamcanion. Defnyddiwyd y diagram hwn yn rhan o'n gwaith ymgysylltu i ddatblygu'r Cynllun drafft, ac mae'n pwysleisio'r integreiddio ar draws y gweithgareddau hyn, a phwysigrwydd gweithio tuag at ganlyniadau cyffredin ar draws y Fro a'r rhanbarth ehangach. Mae'n dangos sut y gall cymryd camau penodol mewn un maes gwaith esgor ar fuddion lluosog ar draws yr amcanion. Bydd canolbwyntio ar yr Amcanion newydd hyn, sy'n adeiladu ar Gynllun Llesiant 2018-2023 a chyfres gyntaf y BGC o Amcanion yn ein galluogi i gydweithio i fynd i'r afael â'r prif broblemau a nodwyd yn yr Asesiad Llesiant.
Manylir ar gwmpas pob amcan isod a cheir rhagor o wybodaeth am y gweithgareddau a’r prosiectau amrywiol sy’n rhan o’r camau a fydd yn cyfrannu at gyflawni’r amcanion hyn yn yr adran Cyflawni Ein Hamcanion Lles.