Mae’r Asesiad Llesiant yn creu sylfaen gref o dystiolaeth yn sail ar gyfer gwaith y BGC, ac fel partneriaeth rydym yn parhau i gryfhau'r sylfaen dystiolaeth honno, gan gyfuno data, gwaith dadansoddi, ymchwil a chanlyniadau ein gweithgarwch ymgysylltu. Fodd bynnag, mae dwy her gyfredol ac, o bosib, hirdymorsy’n torri ar draws pob un o’n Hamcanion ac sy’n berthnasol i’r holl waith yr ydym yn ei ddatblygu fel BGC. Y rhain yw'r argyfyngau hinsawdd a natur a'r argyfwng costau byw. Mae'r rhain yn effeithio ar ein dull o ddarparu gwasanaethau ac ar fywydau beunyddiol ein cymunedau.
Er mwyn gwella llesiant ar draws y Fro mae angen inni wynebu’r heriau hyn a deall eu heffaith ar fywydau pawb sy’n byw yn y Fro heddiw. Rhaid inni ddeall hefyd, os na lwyddwn i wynebu'r heriau hyn, y byddant yn diffinio bywydau cenedlaethau'r dyfodol.
Y Newid Hinsawdd a'n Hadnoddau Naturiol
Derbynnir yn bendant bellach fod gweithgarwch dynol wedi cynhesu atmosffer, cefnforoedd a thir y ddaear. O ganlyniad i hyn, gellir gweld newidiadau cyflym yn digwydd ar draws y byd. Nid yw Cymru, na Bro Morgannwg, wedi’u heithrio o’r newidiadau hyn. Yng Nghymru mae'r tymheredd cyfartalog wedi codi 0.9°C yn flynyddol o ganol y 1970au hyd canol y 2010au. I raddau tebyg, mae cyfartaledd cymedrig y glawiad wedi cynyddu 2% o ganol y 1970au hyd canol y 2010au. Rhagwelir bod llawer o'r newidiadau hyn bellach wedi'u hymwreiddio mewn systemau amgylcheddol a fydd yn arwain at risgiau cynyddol i'r amgylchedd naturiol, ac oddi wrtho. Byddai peidio cydnabod ac ymateb i'r newidiadau amgylcheddol hyn yn creu goblygiadau difrifol o ran llesiant amgylcheddol a chymunedol.
Mae Adroddiad yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth yr Asesiad Llesiant wedi amlinellu sut mae'r risgiau uwch hyn yn effeithio arfywyd ym Mro Morgannwg, a sut y byddant yn parhau i wneud hynny. Mewn ymateb i arolwg ymgysylltu Dewch i Siarad am Fywyd ym Mro Morgannwg, a gynhaliwyd i lywio’r Asesiad Llesiant, atebodd 86% o ymatebwyr eu bod yn ‘weddol bryderus’ neu’n ‘bryderusiawn’ am y newid hinsawdd. Atebodd 70% o ymatebwyr eu bod yn credu bod y newid hinsawdd eisoes yn cael effaith ym Mro Morgannwg.
Roedd yr ail Adroddiad ar Gyflwr Adnoddau Naturiol (SoNaRR2020) a'i ganfyddiadau'n greiddiol i'r dadansoddiad a gyflwynwyd yn yr Asesiad Llesiant. Neges allweddol SoNaRR2020 yw’r angen i newid y modd y mae cymdeithas yn rhyngweithio â thair system amgylcheddol - Bwyd, Ynni a Thrafnidiaeth. Drwy fynd i'r afael â'r systemau hyn, bydd modd gweddnewid pethau. Drwy’r newidiadau hyn efallai y bydd modd addasu, lliniaru a gwrthdroi’r argyfyngau hinsawdd a natur, er mwyn sicrhau trosglwyddiad cyfiawn i ddatgarboneiddio a gwella iechyd a gwytnwch ecosystemau, gan ragatal ac atal clefydau a marwolaethau y gellir eu hosgoi a achosir gan beryglon amgylcheddol.
Mae’n hanfodol inni ddatblygu dealltwriaeth well o'r systemau allweddol sy'n ysgogi arferion anghynaladwy. Mae’rsystemau amgylcheddol, y systemau bwyd a'rsystemau adnoddau sy’n dylanwadu ar lesiant amgylcheddol yn aml yn ymddwyn mewn ffyrdd sy’n gymhleth ac annarogan. Mewn meysydd fel rheoli tir, rheoli gwastraff, cadwraeth bioamrywiaeth, atal llygredd, diogelwch bwyd a datgarboneiddio, mae achos ac effaith materion sy'n dod i'r amlwg yn gymhleth. Er mwyn mynd i'r afael â'r materion hyn mae angen newid systemau,ac mae angen inni archwilio gyda'n gilydd sut y gallwn ddylanwadu ar y systemau hyn.
Bydd yr angen i ddatgarboneiddio ein heconomi a’n cymunedau yn cael effaith ar ein gwasanaethau, ein gweithlu, ein cymunedau, busnes a diwydiant mewn gwahanol ffyrdd. Mae partneriaid BGC mewn sefyllfa dda i ystyried y ffyrdd gorau ymlaen a sut i gyfathrebu ynghylch y penderfyniadau a'r newidiadau sydd eu hangen
Er mwyn inni ymateb yn llwyddiannus i'r argyfwng natur, mae angen i bob un ohonom ystyried sut i ddiogelu a gwella ein cyflenwadau o adnoddau naturiol, sut i wella iechyd ein hecosystemau a lleihau amlygiad i risgiau amgylcheddol, a sut i hyrwyddo economi gylchol.
Yr Argyfwng Costau Byw
Er i’r Asesiad Llesiant ganfod bod llawer o brofiadau llesiant ym Mro Morgannwg yn dda, nid yw’r profiadau hyn yn gyson. Mae caledi ariannol, iechyd gwaelach, trosedd ac anhrefn, a'r ffaith eu bod yn dod i gysylltiad â risg amgylcheddol anghyfartal yn parhau i effeithio ar lesiant rhai pobl. Yn sgil yr argyfwng costau byw presennol mae'n debygol y bydd hyd yn oed mwy o bobl yn dechrau profi caledi ac yn gweld eu hansawdd bywyd yn dirywio.
Mae cysylltiadau wedi cael eu sefydlu rhwng y profiadau hyn a phobl sy'n byw mewn ardaloedd a nodwyd yn ardaloedd mwy difreintiedig. Ym Mro Morgannwg, mae tair Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Is (AGEHI) wedi’u nodi ym Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (WIMD) 2019 fel rhai sydd ymhlith y 10% o ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Mae saith AGEHI arall wedi'u cynnwys ymhlith y 10-20% o ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Mae pob un o'r deg AGEHI wedi'u lleoli yn y Barri. Mae'r rhai sy'n byw mewn ardaloedd mwy difreintiedig yn llai tebygol o fod ag arferion iach, ac yn fwyaf tebygol o brofi deilliannau iechyd gwaelach. Gwyddom fod y rhai sy’n byw mewn ardaloedd mwy difreintiedig yn llai tebygol o fodloni’r canllawiau gweithgarwch corfforol na’r rhai sy’n byw mewn ardaloedd mwy cefnog, ac mae’n debygol y bydd yr argyfwng costau byw yn ei gwneud yn anoddach i gael y cyfle i fod yn egnïol a chymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol wedi’u trefnu. Gwelir cyfraddau brechu is yn ardaloedd mwy difreintiedig Bro Morgannwg. Gwelir gwahaniaethau sylweddol mewn disgwyliad oes iach wrth gymharu ein hardaloedd lleiaf a mwyaf difreintiedig. Gwelir hefyd lefelau mwy niweidiol o'r llygrydd Nitrogen Deuocsid (NO2) a risg uwch o ddigwyddiadau llifogydd mewn ardaloedd mwy difreintiedig
Nid yw hyn yn golygu bod pawb sy'n byw yn yr ardaloedd hyn yn profi amddifadedd a lefelau is o lesiant; yn yr un modd, gwyddom fod ardaloedd ledled Bro Morgannwg heb eu nodi'n ardaloedd mwy difreintiedig lle mae pobl yn profi caledi a lefelau gwael o lesiant.
Gwaethygodd pandemig Covid-19 y profiadau hyn i lawer, gan roi pwysau sylweddol ar y rhai a oedd eisoes yn ei chael hi'n anodd oherwydd diffyg llesiant. Mae'r argyfwng costau byw sy'n datblygu yn bwrw goleuni pellach ar anghydraddoldeb mewn cymdeithas. Mae'r cynnydd mewn prisiau ynni, chwyddiant cynyddol, cynnydd mewn costau trafnidiaeth a bwyd yn taro'r aelwydydd tlotach galetaf. Mae cynnydd mewn prisiau ynni yn taro aelwydydd tlotach mewn modd anghymesur - amcangyfrifir bod yr aelwydydd tlotaf yn gwario 11% o gyfanswm eu cyllideb ar nwy a thrydan, o gymharu â 4% o'r aelwydydd cyfoethocaf. Mae’r effaith hon yn cael ei gwaethygu gan anghysondebau ym mhrisiau ynni, gyda’r aelwydydd hynny sydd â mesuryddion rhagdalu yn talu mwy am eu hynni nag aelwydydd heb fesuryddion o’r fath. Mae effeithlonrwydd ynni aelwydydd a phrisiau ynni hefyd yn rhyngweithio â'i gilydd, ac mae rhai o'r tai lleiaf effeithlon yn y DU ac yn Ewrop o ran gwresogi a chadw gwres i'w cael yng Nghymru. I'r rhai sy'n byw mewn tai o'r fath yn y ,gallai cynhesu a chadw cartref yn gynnes droi'n fwyfwy anodd. Yn yr un modd, mewn aelwydydd yn ardaloedd mwy gwledig y Fro, mae dibyniaeth arsystemau gwresogi olew, nad yw'r cap ar brisiau ynni yn berthnasol iddynt, wedi golygu bod yr aelwydydd hyn yn agored i brisiau olew anwadal a chynnydd sylweddol mewn prisiau. Yn yr un modd, i aelwydydd yn ardaloedd mwy gwledig y Fro, mae dibynnu ar systemau gwresogi sy’n defnyddio olew nad ydynt yn rhan o’r mesurau cymorth ynni yn eu gadael yn agored i amrywiadau mewn prisiau olew a chodiadau sylweddol mewn prisiau. Mae'r cynnydd hwn mewn prisiau yn gwasgu ar gyflogau a chymorth budd-daliadau'n gysylltiedig ag incwm, gan effeithio'n arbennig ar yr aelwydydd tlotaf â'r lleiaf o gapasiti yn eu cyllideb i liniaru'r prisiau uwch. Wrth i'r pwysau hyn gynyddu, ceir pryderon y gallai aelwydydd gael eu gorfodi i fynd i ddyled ffurfiol ac anffurfiol, a'u gwthio i mewn i dlodi tanwydd a bwyd, a fydd yn effeithio ar eu llesiant meddyliol a chorfforol.
Er bod nifer o gynlluniau wedi cael eu cyflwyno gan y llywodraeth i leihau'r baich ar aelwydydd yn sgil y cynnydd mewn prisiau ynni, ceir pryder y gallai'r pwysau cynyddol oherwydd y cynnydd mewn costau byw achosi i anghydraddoldeb fagu gwreiddiau dyfnach ym Mro Morgannwg, gan wthio rhai preswylwyr i brofi caledi am y tro cyntaf, a chaethiwo rhai sydd eisoes yn profi amddifadedd a lefelau is o lesiant yn y sefyllfa honno.