Beth rydym wedi'r gyflawni

 People reviewing performance information

Wrth ddatblygu ein Cynllun Llesiant newydd mae hi wedi bod yn bwysig myfyrio ar y pum mlynedd diwethaf, gan ystyried yr hyn rydym wedi'i gyflawni, beth sydd wedi gweithio'n dda a'r gwersi rydym wedi'u dysgu er mwyn cynllunio i'r dyfodol.


Yn 2018 cytunodd y BGC ar bedwar Amcan Llesiant a oedd yn adlewyrchu’r materion allweddol a ddaeth i’r amlwg yn yr Asesiad Llesiant a gyhoeddwyd yn 2017.

  • Galluogi pobl i gymryd rhan, i gyfranogi yn eu cymunedau lleol ac i siapio gwasanaethau lleol

  • Lleihau tlodi a mynd i'r afael ag anghydraddoldeb sy'n gysylltiedig ag amddifadedd

  • Rhoi'r dechrau gorau i blant mewn bywyd

  • Gwarchod, gwella a gwerthfawrogi ein hamgylchedd

 

Ceir manylion llawn yr hyn sydd wedi'i wneud er mwyn cyflawni'r Amcanion hyn a blaenoriaethau perthnasol y BGC mewn cyfres o Adroddiadau Blynyddol a gyhoeddwyd gan y BGC. Mae'r rhain yn dangos sut rydym wedi ymwreiddio'r pum ffordd o weithio ac yn cyfrannu at y nodau llesiant cenedlaethol.

Dyma rai enghreifftiau o'r hyn y mae'r BGC wedi'i gyflawni:

  • Cynnig ymateb effeithiol i bandemig COVID-19, cryfhau ein gwaith partneriaeth, cefnogi'r naill a'r llall a'r gymuned i fodloni anghenion y rhai sy'n fwyaf agored i niwed, rheoli'r cyfyngiadau a wnaeth ein cadw'n ddiogel a rhoi'r rhaglen frechu ar waith.

  • Cytuno ar Siarter Argyfwng Hinsawdd a monitro cynnydd â phartneriaid, gan gymryd camau sylweddol i leihau eu heffaith negyddol ar yr amgylchedd ac i rannu arferda.

  • Dull mwy integredig o ymgysylltu rhwng partneriaid, ac yn arbennig, gwella sut rydym yn ymgysylltu â phlant a phobl ifanc, gan gynnwys cyfarfod arbennig o'r BGC gyda phobl ifanc i ganolbwyntio ar y newid hinsawdd.

  • Sefydlu cyfarfodydd cyfnewid rheolaidd o'r BGC/Cyngor Tref a Chymuned i drafod materion allweddol a deall mwy am waith a blaenoriaethau'r naill a'r llall. Mae hyn yn ychwanegol at gael cynrychiolydd o'r Cyngor Tref a Chymuned ar y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.

  • Datblygu sylfaen dystiolaeth y BGC a mwy o fewnwelediad i'n cymunedau, gan gynnig mynediad i'n partneriaid at ddata allweddol i gefnogi eu gwaith.

  • Arwyddo Siarter Teithio Llesol a chyflawni ymrwymiadau'n gysylltiedig â thrafnidiaeth gyhoeddus, cerdded a beicio, cyfathrebu ac arweinyddiaeth, gweithio ystwyth a cherbydau allyriadau isel iawn.

  • Cryfhau gwaith Partneriaeth Bwyd y Fro sydd wedi ennill Gwobr Efydd Mannau Bwyd Cynaliadwy a chynnal Gŵyl Bwyd y Fro flynyddol lwyddiannus am y 2 flynedd ddiwethaf i hyrwyddo bwyd lleol a chyfleoedd tyfu.

  • Cydweithio er mwyn helpu i fynd i'r afael â thlodi bwyd, gan gynnwys cais llwyddiannus am gyllid ar gyfer Prosiect Peilot Mynediad at Fwyd Llanilltud Fawr ar ôl ymgysylltu'n helaeth â'r gymuned a rhanddeiliaid lleol.

  • Ehangu ac ailddatblygu'r cynllun bancio amser lleol a elwir bellach yn 'Gwerth yn y Fro' sydd ar gael i bawb yn dilyn ceisiadau llwyddiannus am gyllid ar gyfer Swyddog Ymgysylltu Digidol a Gwirfoddoli.

  • Cryfhau partneriaethau aml-asiantaeth drwy gydweithio i fynd i'r afael â chynnydd mewn troseddu nas gwelwyd mo'i debyg o'r blaen, yn sgil cyfyngiadau a osodwyd yn gysylltiedig â chyfnodau clo COVID-19.

  • Gweithio gyda'n gilydd i fwrw ymlaen â Chynllun Symud Mwy Bwyta'n Iach Caerdydd a'r Fro a ddatblygwyd mewn partneriaeth, er mwyn annog a chefnogi gweithgareddau sy'n cadw pobl yn iach ac egnïol yn erbyn 10 maes â blaenoriaeth ar gyfer y rhanbarth.

  • Wedi'i addasu i weithio mewn ffyrdd newydd i gefnogi plant, teuluoedd a chymunedau ar draws Bro Morgannwg, i ddatblygu a chyflwyno darpariaeth chwarae a chwaraeon o ansawdd uchel ar adegau pan nad oedd cyfleoedd chwaraeon a chwarae wyneb yn wyneb yn bosibl mwyach oherwydd cyfyngiadau COVID-19.

  • Ymgysylltu’n uniongyrchol â phobl ifanc i drafod materion sy'n gysylltiedig â'r newid hinsawdd a sut i wneud y Fro'n ardal Oed Gyfeillgar, a syniadau ynghylch sut y gall partneriaid gydweithio â phobl ifanc i newid pethau er gwell.

  • Sefydlu Bwrdd Cyflawni Cynyddu Gwaith Atal ar draws Caerdydd a'r Fro i gynnal ymagwedd ddatblygedig ar y cyd i wella gwaith atal a threchu anghydraddoldeb, gan ganolbwyntio i ddechrau ar imiwneiddio plant; sgrinio coluddion; a Symud Mwy, Bwyta'n Iach, gan weithredu mewn ffordd sy'n dangos yr hyn rydym wedi'i ddysgu yn sgil yr ymateb i'r pandemig.

  • Defnyddio cyllid grant CNC i ddarparu cyfleusterau addysg awyr agored mewn gardd gymunedol yn y Barri, i blannu mwy o goed ac i gefnogi prosiect gardd gwirfoddolwyr yn Llanilltud Fawr, o dan arweiniad Gwasanaethau Gwirfoddol Morgannwg.

 

Mae'r cyflawniadau hyn, y gwaith arall rydym wedi'i gyflawni mewn partneriaeth a'r ffyrdd rydym wedi gweithio gyda'n gilydd a chydag eraill wedi creu profiadau defnyddiol i fyfyrio arnynt. Rydym wedi cydnabod rôl y BGC fel galluogwr a hwylusydd ac mae’r ystyriaeth a roddwyd i hyn ynghyd â’r asesiad lles, ein gwaith ymgysylltu ac ymgynghori, a chyngor gan Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol wedi helpu i lywio’r cynllun hwn a sut y bydd partneriaid yn gweithio gyda’i gilydd i gyflawni amcanion lles y BGC.


 

 

Welsh Copyrights © 2018. All Rights Reserved by Vale of Glamorgan Public Services Board