Cynllun Symud Mwy, Bwyta’n Iach
Datblygwyd y Cynllun Symud Mwy, Bwyta’n Iach mewn partneriaeth â Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Bro Morgannwg, Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Caerdydd a Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Caerdydd a’r Fro ac mae’n cyd-fynd â gofynion Strategaeth Llywodraeth Cymru Pwysau Iach: Cymru Iach Strategaeth Cymru Iach. Mae’r strategaeth hon yn nodi pedair thema allweddol: Amgylcheddau Iach, Lleoliadau Iach, Pobl Iach, Arweinyddiaeth a Galluogi Newid er mwyn cyflawni newid iach hirdymor ledled Cymru. Mae’r Cynllun Symud Mwy, Bwyta’n Iach yn ategu cyflawni’r strategaeth hon drwy annog, cynorthwyo a galluogi pobl i fod yn fwy egnïol a chael deiet iachach yng Nghaerdydd a’r Fro.
Drwy gydweithredu a chanolbwyntio ar agweddau penodol, mae'r Cynllun yn anelu i sicrhau bod pobl yng Nghaerdydd a'r Fro yn symud mwy ac yn bwyta’n iach. Mae'r Cynllun yn cynnwys 10 maes â blaenoriaeth: Lleoliadau addysg, Gweithleoedd iach, Amgylcheddau iach, Gwasanaethau pwysau iach, Gweithlu a phoblogaeth wybodus, Hysbysebu a marchnata iach, Teithio llesol, Cymunedau iach, Rhanbarth Ail-lenwi, a Chaffael bwyd iach a chynaliadwy.
Bydd camau gweithredu o dan y Cynllun hwn yn helpu i fynd i'r afael â phroblemau'n gysylltiedig â'r newid hinsawdd a gwarchod ein hamgylchedd, drwy gamau'n gysylltiedig â'r genedl ail-lenwi, caffael bwyd iach a chynaliadwy a theithio iach. Bydd camau gweithredu hefyd yn helpu i fynd i'r afael â gwahaniaethau mewn ymgyrchoedd hysbysebu a marchnata ar draws ein cymunedau, gan ganolbwyntio ar welliannau mewn cymunedau difreintiedig.
Bydd y Cynllun yn ei helpu i gyflawni pob un o'r tri o Amcanion Llesiant sydd gennym, yn enwedig Bro sy'n fwy Iach ac Egnïol a Bro sy'n fwy Cydnerth a Gwyrdd. Mae’r gwaith hwn yn cyfrannu at waith i fynd i’r afael â thlodi bwyd ac annhegwch iechyd a chynyddu canran y bobl sydd â phwysau iach. Tîm Iechyd Cyhoeddus Caerdydd a'r Fro sy'n arwain y gwaith hwn, ac mae rhagor o wybodaeth am Symud Mwy, Bwyta’n Iach ar gael ar y wefan Symud Mwy, Bwyta'n Iach.