Gwasanaethau a chymorth ym Mro Morgannwg
Mae gan
Brosiectau CELT+ yng Nghyngor Bro Morgannwg brosiectau sy'n cefnogi pobl hŷn sy'n byw ledled y Fro. Mae’r Prosiect Cyflogadwyedd CELT+ yn cefnogi pobl hŷn, yn enwedig y rhai sy'n byw mewn ardaloedd mwy gwledig i ddod o hyd i waith, hyfforddiant, cychwyn busnes, diweddaru eu sgiliau neu wirfoddoli. Mae ganddynt hefyd wasanaeth POD sy'n cynnig cyngor a chyfeirio am ddim i breswylwyr gan gefnogi unrhyw beth gan gynnwys tai, cyllid, iechyd meddwl a gwybodaeth gyffredinol. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â: Paul Pickering ar 07849 309835 neu e-bostiwch ppickering@valeofglamorgan.gov.uk
Mae’r
Care Collective yn rhoi gwybodaeth a chymorth i ofalwyr di-dâl yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg. Nod y gwasanaeth yw gwella ansawdd bywyd i chi, a'r person rydych chi'n ei gefnogi, gan eich helpu i wneud y gorau o'ch bywyd ochr yn ochr â gofalu. Maen nhw hefyd eisiau sicrhau eich bod chi'n gallu ymdopi'n ariannol a chael yr amser a'r egni i fwynhau eich bywyd a gwneud pethau sy'n bwysig i chi. Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan y
Care Collective.
Mae
Dinas Powys Voluntary Concern (DPVC) yn grŵp lleol o wirfoddolwyr sy'n gweithio i alluogi'r bobl hŷn a'r rhai sydd â symudedd cyfyngedig i gynnal annibyniaeth a chyfrannu yn y bywyd cymunedol. Mae'r grŵp yn darparu cludiant yn ogystal â gwasanaethau lles a chyfeillio wythnosol. Ewch i’w
gwefan i ddarganfod mwy.
Mae
Valeways yn rhedeg deg grŵp crwydro ar draws Bro Morgannwg. Er bod teithiau cerdded yn agored i unrhyw un ac yn hollol rhad ac am ddim i ymuno (dim ond dod draw - dim angen archebu), maent yn cael eu mynychu gan bobl dros 50 oed. Mae taith gerdded yn para tua awr ac nid oes unrhyw gamfeydd na incleiniau serth. Yr unig ofyniad yw pâr o esgidiau cyfforddus ar gyfer cerdded. Mae'r rhaglen ar gyfer y 3 mis nesaf ar gael i'w gweld yma
Valeways.
Mae
Home Instead (Penarth a'r Barri) yn cynnal nifer o ddigwyddiadau rheolaidd ym Mro Morgannwg. E-bostiwch Christine.darby@homeinstead.co.uk neu ffoniwch 02920569483 i gofrestru eich diddordeb yn y cynigion hyn.
-
Bore Coffi Llandochau yn y Merrie Harrier, Ffordd Penlan, CF64 2NY Bob dydd Mawrth cyntaf o'r mis o 10.00am – 12.00pm.
-
Caffi Cof Penarth yn Ystafell 1, Eglwys Fethodistaidd Penarth, Woodland Place, Penarth, CF64 2EX. Bob ail ddydd Llun y mis rhwng 10:00am a 12:00pm.
-
MenoPals Sully yng Nghlwb Chwaraeon a Chymdeithasol Sili, South Road, Sili CF64 5SP ar ail ddydd Mercher y mis 7.30pm a 9pm.
Nod
With Music in Mind (WMIM) yw lleihau unigedd cymdeithasol ac unigrwydd a gwella ansawdd bywyd a lles corfforol a meddyliol pobl hŷn yn y gymuned. Mae hyn yn cynnwys cefnogi'r rhai sy'n byw gyda chyflyrau cudd fel dementia, a'u gofalwyr. Ar hyn o bryd mae'r grŵp yn cynnal pum grŵp canu a chymdeithasol a dau grŵp ymarfer corff a chymdeithasol ysgafn ar draws Bro Morgannwg a Phen-y-bont ar Ogwr sy'n agored i unrhyw un 50+ oed. Mae croeso i ofalwyr fynychu grwpiau am ddim gydag aelod. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’w
gwefan.
Fforwm Strategaeth 50+ y Fro yn cynnig llais i bobl hŷn ym Mro Morgannwg. Os ydych chi'n 50+ oed ac yn byw, yn gweithio neu’n gwirfoddoli yn y Fro, ymunwch â nhw. I ddysgu mwy ewch i'w
gwefan neu cysylltwch â nhw dros y ffôn: 01446 700111 neu e-bostiwch OPF@valeofglamorgan.gov.uk
Mae
Age Connects Caerdydd a’r Fro yn elusen leol sy'n cefnogi pobl hŷn mewn angen. Gallant gynnig achubiaeth mewn cymaint o ffyrdd: cyfeillgarwch, cymorth ymarferol a gwasanaeth siopa trwy eu prosiect dan arweiniad gwirfoddolwyr. Rhyngweithio cymdeithasol, cyngor a lluniaeth yn eu Canolfan Lles yn Heol Holltwn, Y Barri, a mwy, cyngor ar fudd-daliadau, torri ewinedd a chymorth eiriolaeth.
Mae
Dewis Cymru yn gyfeiriadur ar-lein sy'n caniatáu i drigolion yn y Fro gael gafael ar wybodaeth am wasanaethau mewn meysydd fel iechyd, gofal, budd-daliadau, rheoli arian, clybiau, gweithgareddau a chymorth i deuluoedd. Mae'r cynllun wedi'i fwriadu i helpu a chyfeirio pobl i'r hyn sydd ei angen arnynt heb fod angen mynd at weithiwr proffesiynol neu alw am gymorth. Ewch i’w
gwefan i ddysgu mwy a dechrau manteisio ar wasanaethau yn agos atoch chi.
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi sefydlu clinigau sy’n cael eu rhedeg gan ffisiotherapyddion ac sy’n arbenigo mewn cwympo, a all ddarparu asesiadau ac yna cyngor ar leihau’r risg o gwympo. Cynigir y clinigau hyn naill ai wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu drwy gyswllt fideo diogel. Ewch i'w
gwefan am ragor o wybodaeth.
Os hoffech i'ch gwasanaeth, gweithgaredd neu gyfle gael ei ychwanegu at y dudalen hon a/neu os hoffech ymuno â'n Rhwydwaith y Fro Oed-gyfeillgar cysylltwch â Siân Clemett-Davies, Swyddog Oed-gyfeillgar y Fro snclemett-davies@valeofglamorgan.gov.uk